Home » Or Harbwr Gwag ir Cefnfor Gwyn by Robin Llywelyn
Or Harbwr Gwag ir Cefnfor Gwyn Robin Llywelyn

Or Harbwr Gwag ir Cefnfor Gwyn

Robin Llywelyn

Published
ISBN :
Enter the sum

 About the Book 

Mae ail nofel Robin Llywelyn yn wledd ir sawl a fwynheuodd Seren Wen ar Gefndir Gwyn. Dyma ailddarganfod byd esoterig yr awdur: ieithwedd unigryw, realiti a ffantasi yn gymysg, y ffiniau rhwng daearyddiaeth ar meddwl yn dir neb, yn anialwch, ynMoreMae ail nofel Robin Llywelyn yn wledd ir sawl a fwynheuodd Seren Wen ar Gefndir Gwyn. Dyma ailddarganfod byd esoterig yr awdur: ieithwedd unigryw, realiti a ffantasi yn gymysg, y ffiniau rhwng daearyddiaeth ar meddwl yn dir neb, yn anialwch, yn anghyfanedd. Ar ben hynny, dyma flas eto ar hiwmor ac eironi y llenor, a chwrdd a chymeriadau Llywelynaidd megis Petrog Spailpin, Sionyn Troliau, ar hen wr doeth Dail Coed. Wedi ymgynefino â byd y cymeriadau hyn, gwelwn mai stori draddodiadol syn sylfaen ir llyfr. Mae Gregor Marini wedi colli ei swydd. Maen rhoi ei bryd ar ymfudo, a hynny yn anghyfreithlon. Ar ôl canun iach ag Alice, ac addo iddi y bydd yn dychwelyd, llwydda Gregor i gyrraedd y ddinas tu hwnt ir môr. Mewn llyfrgell go arbennig y maen cael swydd yn cofnodi rhai miliynau o lyfrau i Adam Laban ar Du Traheus a chael ei anfon wedyn ir Gwynfyd pell. Bro heb ei difwyno gan y byd modern ywr Gwynfyd, ac yno, ar ôl helynt mawr ac afiechyd, mae Gregor yn ymserchu yn Iwerydd. Ond dod maer milwyr, ac maes o law fe fydd y Gwynfyd dan ormes y gelyn. Ffoi sydd raid unwaith eto. Ar un olwg, nofel wleidyddol yw Or Harbwr Gwag ir Cefnfor Gwyn sydd yn trafod cenedl fychan yn cael ei difa gan y cawr, ar brodorion yn gorfod dianc. Ond maer cenedlgarwch yn cael ei fynegi ar ffurf alegori, a chan ganolbwyntio ar garwriaeth Gregor ac Iwerydd sydd yn cael eu gwahanu yn greulon cyn cyrraedd Efrog Newydd yn y pen draw.